Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Mehefin 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


214(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Prif Weinidog

 

Mick Antoniw (Pontypridd) :A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod nifer o ddinasyddion yng Nghymru yn debygol o golli eu hawl i gael trwydded deledu am ddim?

 

 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng ngoleuni adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n nodi y dylai toll teithwyr awyr gael ei datganoli'n llawn i Gymru, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diddymu neu ostwng y gyfradd os trosglwyddir y pŵer i Gymru?

 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

 

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) : A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

 

NDM7072 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.

NDM7073 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

NDM7074 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

NDM7075 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

a) David Rowlands (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a

b) Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgarwchedd Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc

(60 munud)

NDM7061 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2019.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2019.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Plaid Cymru - Dewisiadau amgen i Ffordd Liniaru'r M4

(60 munud)

NDM7066 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw am i'r buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar gyfer cynnig ffordd liniaru'r M4, ac a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei glustnodi o'r newydd tuag at ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

1. Yn nodi’r penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth 4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

2. Yn nodi’r camau arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr Arglwydd Terry Burns.

3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.

Datganiad Llafar: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Datganiad Ysgrifenedig: M4 Casnewydd: Camau Nesaf

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 1.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth yr £114 miliwn o arian trethdalwyr Cymru sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynigion ffordd liniaru'r M4.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd ar yr M4.

Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ar frys beth yw ei chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Lleihau Gwastraff Plastig

(60 munud)

NDM7065 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd:

a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;

b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac

c) gwahardd trowyr diodydd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

1.         Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2.         Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.

3.         Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

4.         Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.

5.         Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM7064 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sgamiau yng Nghymru.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>